Jeremiah 40:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa, sef Ismael mab Nethaneia, a Johanan a Jonathan meibion Carea, a Seraia mab Tanhumeth, a meibion Effai y Netoffathiad, a Jesaneia mab Maachathiad, hwynt‐hwy a'u gwŷr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n mynd i gyfarfod Gedaleia yn Mitspa — Ishmael fab Nethaneia, Iochanan a Jonathan (meibion Careach), Seraia fab Tanchwmeth, meibion Effai o Netoffa, a Iesaneia (mab y Maachathiad). Daeth y rhain i gyd gyda'u milwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fe ddaethant at Gedaleia i Mispa. Daeth Ismael fab Nethaneia, Johanan a Jonathan, meibion Carea, a Seraia fab Tanhumeth, a meibion Effai o Netoffa, a Jesaneia mab y Maachathiad, y rhain i gyd a'u milwyr;