Jeremiah 40:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Gedaleia mab Ahicam mab Saffan a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwŷr, gan ddywedyd, Nac ofnwch wasanaethu y Caldeaid: trigwch yn y wlad, a gwasanaethwch frenin Babilon, felly y bydd daioni i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Gedaleia yn addo iddyn nhw, “Does dim rhaid i chi fod ag ofn ildio i'r Babiloniaid. Arhoswch yn y wlad a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd popeth yn iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a thyngodd Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan wrthynt ac wrth eu milwyr, gan ddweud, "Peidiwch ag ofni gwasanaethu'r Caldeaid; cartrefwch yn y wlad, a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd yn dda arnoch.