Jeremiah 41:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y seithfed mis daeth Ismael mab Nethaneia mab Elisama o'r had brenhinol, a phendefigion y brenin, sef dengwr gydag ef, at Gedaleia mab Ahicam i Mispa: a hwy a fwytasant yno fara ynghyd ym Mispa.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna yn y seithfed mis dyma Ishmael (mab Nethaneia ac ŵyr i Elishama) yn mynd i gyfarfod Gedaleia fab Achicam yn Mitspa. Roedd deg o ddynion eraill gydag e. (Roedd Ishmael yn perthyn i'r teulu brenhinol, ac roedd wedi bod yn un o brif swyddogion y brenin Sedeceia.) Roedden nhw'n cael pryd bwyd gyda'i gilydd yn Mitspa.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y seithfed mis daeth Ismael fab Nethaneia, fab Elisama, o deulu'r brenin, a chydag ef bendefigion y brenin, deg ohonynt, i Mispa at Gedaleia fab Ahicam; a thra oeddent yn bwyta pryd gyda'i gilydd yn Mispa,