Jeremiah 41:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Ismael a gaethgludodd holl weddill y bobl y rhai oedd ym Mispa, sef merched y brenin, a'r holl bobl y rhai a adawsid ym Mispa, ar y rhai y gosodasai Nebusaradan pennaeth y milwyr Gedaleia mab Ahicam yn llywydd: ac Ismael mab Nethaneia a'u caethgludodd hwynt, ac a ymadawodd i fyned drosodd at feibion Ammon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Ishmael yn cymryd pawb oedd yn Mitspa yn gaeth — roedd hyn yn cynnwys merched o'r teulu brenhinol, a phawb arall oedd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, wedi eu gosod dan awdurdod Gedaleia fab Achicam. Cymerodd Ishmael nhw i gyd yn gaeth a cychwyn ar ei ffordd yn ôl i wlad Ammon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daliodd Ismael holl weddill y bobl oedd yn Mispa, sef merched y brenin a'r holl bobl oedd wedi eu gadael yn Mispa pan osododd Nebusaradan, pennaeth y gwylwyr, Gedaleia fab Ahicam yn arolygydd drostynt. Daliodd Ismael fab Nethaneia hwy, a chychwynnodd fynd drosodd at yr Ammoniaid.