Jeremiah 41:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, a gymerasant holl weddill y bobl, y rhai a ddygasai efe yn eu hôl oddi ar Ismael mab Nethaneia, o Mispa, (wedi iddo ef ladd Gedaleia mab Ahicam,) sef cedyrn ryfelwyr, a'r gwragedd, a'r plant, a'r ystafellyddion, y rhai a ddygasai efe o Gibeon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iochanan fab Careach, a swyddogion eraill y fyddin oedd gydag e, yn arwain y bobl oedd wedi eu hachub i ffwrdd. (Roedd dynion, gwragedd a phlant, a swyddogion y llys yn eu plith, sef y bobl roedd Ishmael fab Nethaneia wedi eu cymryd yn gaeth o Mitspa ar ôl llofruddio Gedaleia fab Achicam.) Ar ôl gadael Gibeon
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cymerodd Johanan fab Carea a swyddogion ei luoedd bawb oedd ar l o'r bobl yr oedd Ismael fab Nethaneia wedi eu dwyn o Mispa, ar l iddo ladd Gedaleia fab Ahicam. Dygodd ef yn l o Gibeon ddynion a gwu375?r rhyfel, gwragedd a phlant ac eunuchiaid.