Jeremiah 41:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhag y Caldeaid: oherwydd eu bod yn eu hofni hwynt, am i Ismael mab Nethaneia ladd Gedaleia mab Ahicam, yr hwn a roddasai brenin Babilon yn llywydd yn y wlad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
i ddianc oddi wrth y Babiloniaid. Roedd ganddyn nhw ofn beth fyddai'r Babiloniaid yn ei wneud am fod Ishmael fab Nethaneia wedi llofruddio Gedaleia, y dyn oedd brenin Babilon wedi ei benodi i reoli'r wlad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
rhag y Caldeaid; oblegid yr oeddent yn eu hofni hwy am fod Ismael fab Nethaneia wedi lladd Gedaleia fab Ahicam, y gu373?r a osododd brenin Babilon yn arolygydd dros y wlad.