Jeremiah 41:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ismael hefyd a laddodd yr holl Iddewon oedd gydag ef, sef gyda Gedaleia, ym Mispa, a'r Caldeaid y rhai a gafwyd yno, y rhyfelwyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Lladdodd Ishmael hefyd bob un o swyddogion Jwda oedd gyda Gedaleia yn Mitspa, a rhai milwyr o Babilon oedd yn digwydd bod yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hefyd lladdodd Ismael yr holl Iddewon oedd gyda Gedaleia yn Mispa, a milwyr y Caldeaid a oedd yn digwydd bod yno.