Jeremiah 41:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Ismael mab Nethaneia a aeth allan o Mispa i'w cyfarfod hwynt, gan gerdded rhagddo, ac wylo; a phan gyfarfu efe â hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch at Gedaleia mab Ahicam.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Ishmael allan i'w cyfarfod nhw. Roedd yn cymryd arno ei fod yn crïo. A pan ddaeth atyn nhw, dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dewch i weld Gedaleia fab Achicam.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth Ismael fab Nethaneia allan o Mispa i gyfarfod hwy, gan wylo wrth ddod. Pan gyfarfu hwy dywedodd, "Dewch at Gedaleia fab Ahicam."