Jeremiah 41:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond dengwr a gafwyd yn eu mysg hwynt, y rhai a ddywedasant wrth Ismael, Na ladd ni: oblegid y mae gennym ni drysor yn y maes, o wenith, ac o haidd, ac o olew, ac o fêl. Felly efe a beidiodd, ac ni laddodd hwynt ymysg eu brodyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Llwyddodd deg ohonyn nhw i arbed eu bywydau trwy ddweud wrth Ishmael, “Paid lladd ni. Mae gynnon ni stôr o wenith, haidd, olew a mêl wedi ei guddio mewn cae.” Felly wnaeth Ishmael ddim eu lladd nhw gyda'r lleill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedodd deg o ddynion o'u plith wrth Ismael, "Paid 'n lladd ni, oherwydd y mae gennym yn y maes gronfa gudd o wenith a haidd ac olew a ml." Felly ni laddwyd y rhain gyda'u cymdeithion.