Jeremiah 41:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r pydew i'r hwn y bwriodd Ismael holl gelaneddau y gwŷr a laddasai efe er mwyn Gedaleia, yw yr hwn a wnaethai y brenin Asa, rhag ofn Baasa brenin Israel: hwnnw a ddarfu i Ismael mab Nethaneia ei lenwi â'r rhai a laddasid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y pydew lle taflodd Ishmael gyrff y dynion laddwyd yn un mawr. (Dyma'r pydew oedd Asa, brenin Jwda, wedi ei adeiladu pan oedd yn amddiffyn y ddinas rhag Baasha, brenin Israel.) Ond roedd Ishmael wedi llenwi'r pydew gyda'r cyrff!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y pydew yr oedd y Brenin Asa wedi ei gloddio pan fygythiwyd ef gan Baasa brenin Israel oedd yr un y bwriodd Ismael iddo holl gelaneddau'r gwu375?r yr oedd wedi eu lladd trwy eu twyllo ag enw Gedaleia. Llanwodd Ismael fab Nethaneia y pydew 'r lladdedigion.