Jeremiah 42:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os trigwch chwi yn wastad yn y wlad hon, myfi a'ch adeiladaf chwi, ac nis tynnaf i lawr, myfi a'ch plannaf chwi, ac nis diwreiddiaf: oblegid y mae yn edifar gennyf am y drwg a wneuthum i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Os gwnewch chi aros yn y wlad yma, bydda i'n eich adeiladu chi. Fydda i ddim yn eich bwrw chi i lawr. Bydda i'n eich plannu chi yn y tir yma, a ddim yn eich tynnu fel chwyn. Dw i'n wirioneddol drist o fod wedi'ch dinistrio chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Os arhoswch yn y wlad hon, fe'ch adeiladaf, ac nid eich tynnu i lawr; fe'ch plannaf, ac nid eich diwreiddio, oherwydd rwy'n gofidio am y drwg a wneuthum i chwi.