Jeremiah 42:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y bydd i'r holl wŷr a osodasant eu hwynebau i fyned i'r Aifft, i aros yno, hwy a leddir â'r cleddyf, â newyn, ac â haint: ac ni bydd un ohonynt yng ngweddill, neu yn ddihangol, gan y dialedd a ddygaf fi arnynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pawb sy'n penderfynu mynd i setlo yn yr Aifft yn cael eu lladd mewn rhyfel, neu yn marw o newyn neu haint. Bydd y dinistr fydda i'n ei anfon arnyn nhw mor ofnadwy fydd neb ar ôl yn fyw.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy gleddyf a newyn a haint bydd farw pob un a dry ei wyneb tua'r Aifft i drigo yno; ni bydd un yn weddill nac yn ddihangol, oherwydd y dialedd a ddygaf arnynt.'