Jeremiah 42:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Megis y tywalltwyd fy llid a'm digofaint ar breswylwyr Jerwsalem; felly y tywelltir fy nigofaint arnoch chwithau, pan ddeloch i'r Aifft: a chwi a fyddwch yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth, ac ni chewch weled y lle hwn mwyach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Yn union fel gwnes i dywallt fy llid mor ffyrnig ar bobl Jerwsalem, bydda i'n tywallt fy llid arnoch chi pan ewch chi i'r Aifft. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd i chi, a byddwch yn destun sbort ac yn esiampl o bobl wedi eich melltithio. A fyddwch chi ddim yn gweld y lle yma byth eto.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Fel y tywalltwyd fy llid a'm digofaint ar drigolion Jerwsalem, felly y tywelltir fy nigofaint arnoch chwithau pan ewch i'r Aifft. Byddwch yn destun melltith ac arswyd, gwawd a gwarth; ac ni chewch weld y lle hwn byth eto.'