Jeremiah 42:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys rhagrithiasoch yn eich calonnau, wrth fy anfon i at yr ARGLWYDD eich DUW, gan ddywedyd, Gweddïa drosom ni ar yr ARGLWYDD ein DUW, a mynega i ni yn ôl yr hyn oll a ddywedo yr ARGLWYDD ein DUW, a nyni a'i gwnawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n gwneud camgymeriad dybryd. Bydd yn costio'ch bywydau i chi! Chi anfonodd fi at yr ARGLWYDD Dduw. ‘Gweddïa ar yr ARGLWYDD ein Duw droson ni’ meddech chi. ‘Dywed wrthon ni beth mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei ddweud, ac fe wnawn ni hynny.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Twyllo'ch hunain yr oeddech wrth fy anfon i at yr ARGLWYDD eich Duw, a dweud, 'Gwedda drosom ar yr ARGLWYDD ein Duw, a mynega i ni bob peth a ddywed yr ARGLWYDD ein Duw; ac fe'i gwnawn.'