Jeremiah 42:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os da neu os drwg fydd, ar lais yr ARGLWYDD ein DUW, yr hwn yr ydym ni yn dy anfon ato, y gwrandawn ni; fel y byddo da i ni, pan wrandawom ar lais yr ARGLWYDD ein DUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n dy anfon di at yr ARGLWYDD ein Duw, a sdim ots os byddwn ni'n hoffi beth mae'n ei ddweud ai peidio byddwn ni'n gwrando arno. Os gwnawn ni hynny, bydd popeth yn iawn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Boed dda neu ddrwg, fe wrandawn ni ar yr ARGLWYDD ein Duw, yr anfonwn di ato, fel y byddo'n dda inni; gwrandawn ar yr ARGLWYDD ein Duw."