Jeremiah 43:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddarfu i Jeremeia lefaru wrth yr holl bobl holl eiriau yr ARGLWYDD eu DUW, am y rhai yr anfonasai yr ARGLWYDD eu DUW ef atynt, sef yr holl eiriau hyn:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Jeremeia wedi gorffen dweud wrth y bobl beth oedd neges yr ARGLWYDD eu Duw iddyn nhw,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan orffennodd Jeremeia lefaru wrth y bobl yr holl eiriau a anfonodd yr ARGLWYDD eu Duw atynt drwyddo ef,