Jeremiah 43:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Wele, mi a anfonaf, ac a gymeraf Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, ac a osodaf ei frenhinfainc ef ar y cerrig hyn y rhai a guddiais, ac efe a daena ei frenhinol babell arnynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i anfon am fy ngwas Nebwchadnesar, brenin Babilon. Dw i'n mynd i osod ei orsedd e ar y cerrig yma dw i wedi eu claddu, a bydd e'n codi canopi drosti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Dyma fi'n anfon i gyrchu fy ngwas, Nebuchadnesar brenin Babilon, a chodaf ei orsedd ar y cerrig hyn a osodais, ac fe daena ef ei ortho drostynt.