Jeremiah 43:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddelo, efe a dery wlad yr Aifft; y rhai sydd i angau, ag angau; a'r rhai sydd i gaethiwed, â chaethiwed; a'r rhai sydd i'r cleddyf, â'r cleddyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae e'n dod i daro gwlad yr Aifft. Bydd y rhai sydd i farw o haint yn marw o haint. Bydd y rhai sydd i gael eu cymryd yn gaethion yn cael eu cymryd yn gaethion. Bydd y rhai sydd i farw yn y rhyfel yn marw yn y rhyfel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe ddaw a tharo gwlad yr Aifft, gan ladd y rhai sydd i'w lladd, a chaethiwo'r rhai sydd i fynd i gaethiwed, a rhoi i'r cleddyf y rhai sydd i'w rhoi i'r cleddyf.