Jeremiah 43:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y llefarodd Asareia mab Hosaia, a Johanan mab Carea, a'r holl ddynion beilchion, gan ddywedyd wrth Jeremeia, Celwydd yr wyt ti yn ei ddywedyd; ni anfonodd yr ARGLWYDD ein DUW ni mohonot ti i ddywedyd, Nac ewch i'r Aifft i ymdeithio yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dyma Asareia fab Hoshaia, Iochanan fab Careach a dynion eraill oedd yn meddwl eu bod nhw'n gwybod yn well yn ateb Jeremeia, “Ti'n dweud celwydd! Dydy'r ARGLWYDD ein Duw ddim wedi dweud wrthon ni am beidio mynd i fyw i'r Aifft.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
atebodd Asareia fab Hosaia a Johanan fab Carea a'r holl rai sarhaus, a dweud wrth Jeremeia, "Dweud celwydd yr wyt; ni orchmynnodd yr ARGLWYDD ein Duw iti ddweud, 'Peidiwch mynd i fyw i'r Aifft.'