Jeremiah 44:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid ydynt wedi ymostwng hyd y dydd hwn, ac nid ofnasant, ni rodiasant chwaith yn fy nghyfraith, nac yn fy neddfau, y rhai a roddais i o'ch blaen chwi, ac o flaen eich tadau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does neb wedi dangos eu bod nhw'n sori o gwbl! Does neb wedi dangos parch ata i, na byw'n ffyddlon i'r ddysgeidiaeth a'r rheolau rois i i chi a'ch hynafiaid.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hyd heddiw nid ydych wedi ymostwng, nac ofni, na rhodio yn fy nghyfraith a'm deddfau, a roddais o'ch blaen ac o flaen eich hynafiaid.'