Jeremiah 44:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a gymeraf weddill Jwda, y rhai a osodasant eu hwynebau i fyned i wlad yr Aifft i aros yno, a hwy a ddifethir oll; yng ngwlad yr Aifft y syrthiant: trwy y cleddyf a thrwy newyn y difethir hwynt: o fychan hyd fawr, trwy y cleddyf a thrwy newyn y byddant feirw: a hwy a fyddant yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwch chi i gyd yn marw — pawb oedd ar ôl yn Jwda ac wnaeth benderfynu dod i fyw i'r Aifft, yn bobl gyffredin ac arweinwyr. Byddwch chi i gyd yn cael eich lladd yn y rhyfel neu'n marw o newyn. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd i chi, a byddwch yn destun sbort ac yn esiampl o bobl wedi eich melltithio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymeraf weddill Jwda, a ddewisodd fynd i wlad yr Aifft i aros yno, a difethir hwy oll. Yng ngwlad yr Aifft y syrthiant; trwy gleddyf a newyn y difethir hwy; yn fach a mawr, byddant farw trwy gleddyf a newyn, a byddant yn destun melltith ac arswyd, gwawd a gwarth.