Jeremiah 44:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond gan wneuthur y gwnawn ni bob peth a'r a ddelo allan o'n genau, gan arogldarthu i frenhines y nefoedd, a thywallt iddi hi ddiodydd‐offrwm, megis y gwnaethom, nyni a'n tadau, ein brenhinoedd a'n tywysogion, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem: canys yna yr oeddem ni yn ddigonol o fara, ac yn dda, ac heb weled drwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni wedi addo llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i'r dduwies ‛Brenhines y Nefoedd‛. Roedd ein hynafiaid a'n brenhinoedd a'n harweinwyr yn gwneud hynny yn nhrefi Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem, a bryd hynny roedd gynnon ni ddigon o fwyd, roedd pethau'n dda arnon ni a doedd dim trafferthion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn hytrach, yr ydym am fynnu gwneud yn l pob addewid a wnaethom i ni ein hunain; yr ydym am arogldarthu i frenhines y nefoedd, a thywallt iddi ddiodoffrwm, fel y gwnaethom o'r blaen yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, ni a'n hynafiaid, ein brenhinoedd a'n tywysogion. Yr oeddem yn cael digon o fara, a bu'n dda arnom, ac ni welsom ddrwg.