Jeremiah 44:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Chwi a welsoch yr holl ddrwg a ddygais i ar Jerwsalem, ac ar holl ddinasoedd Jwda; ac wele hwy heddiw yn anghyfannedd, ac heb breswylydd ynddynt:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi gweld y dinistr anfonais i ar Jerwsalem a threfi Jwda i gyd. Pentwr o gerrig ydyn nhw bellach, a does neb yn byw ynddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Gwelsoch yr holl ddinistr a ddygais ar Jerwsalem ac ar holl ddinasoedd Jwda; y maent heddiw yn anghyfannedd, heb neb yn byw ynddynt,