Jeremiah 44:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y llefarodd ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, gan ddywedyd, Chwychwi a'ch gwragedd a lefarasoch â'ch genau, ac a gyflawnasoch â'ch dwylo, gan ddywedyd, Gan dalu ni a dalwn ein haddunedau y rhai a addunasom, am arogldarthu i frenhines y nefoedd, ac am dywallt diod‐offrwm iddi; llwyr y cwblhewch eich addunedau, a llwyr y telwch yr hyn a addunedasoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi'r gwragedd wedi gwneud yn union beth roeddech chi'n ddweud! Roeddech chi'n dweud eich bod chi wedi addo llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i Frenhines y Nefoedd, ac mai dyna oeddech chi'n mynd i'w wneud. Iawn! Ewch ymlaen! Cadwch eich gair!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Gwnaethoch chwi a'ch gwragedd addewid 'ch genau, a'i chyflawni 'ch dwylo, gan ddweud, "Yr ydym am gyflawni'r addunedau a addunedwyd gennym i arogldarthu i frenhines y nef a thywallt diodoffrwm iddi." Cyflawnwch, ynteu, eich addunedau, a thalwch hwy.'