Jeremiah 44:26 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny gwrandewch air yr ARGLWYDD, holl Jwda y rhai sydd yn aros yng ngwlad yr Aifft; Wele, myfi a dyngais i'm henw mawr, medd yr ARGLWYDD, na elwir fy enw i mwyach, o fewn holl wlad yr Aifft yng ngenau un gŵr o Jwda, gan ddywedyd, Byw yw yr ARGLWYDD DDUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond gwrandwch ar beth sydd gan yr ARGLWYDD i'w ddweud wrthoch chi: ‘Dw i wedi tyngu llw i'm enw mawr fy hun,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fydd neb o bobl Jwda sydd yn yr Aifft yn galw arna i na dweud, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD, ein Meistr, yn fyw …”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi holl bobl Jwda sy'n byw yng ngwlad yr Aifft. 'Tyngais innau i'm henw mawr,' medd yr ARGLWYDD, 'na fydd f'enw mwyach ar wefus neb o bobl Jwda yn holl wlad yr Aifft, i ddweud, "Byw fyddo'r Arglwydd DDUW".