Jeremiah 44:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai a ddihangant gan y cleddyf, ac a ddychwelant o wlad yr Aifft i wlad Jwda, fyddant ychydig o nifer: a holl weddill Jwda, y rhai a aethant i wlad yr Aifft i aros yno, a gânt wybod gair pwy a saif, ai yr eiddof fi, ai yr eiddynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ychydig iawn iawn fydd yn llwyddo i ddianc rhag y cleddyf. Byddan nhw'n mynd yn ôl i wlad Jwda o'r Aifft. Bydd y bobl o Jwda ddaeth i fyw i wlad yr Aifft yn gwybod mai beth dw i'n ddweud sy'n wir, nid beth maen nhw'n ddweud!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r rhai a ddihanga rhag y cleddyf, dychwelant o wlad yr Aifft i dir Jwda yn ychydig o nifer; a chaiff holl weddill Jwda, a ddaeth i wlad yr Aifft i aros yno, ystyried gair pwy a saif, fy ngair i ynteu eu gair hwy.'