Jeremiah 44:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hyn fydd yn arwydd i chwi, medd yr ARGLWYDD, sef yr ymwelaf â chwi yn y lle hwn, fel y gwypoch y saif fy ngeiriau i'ch erbyn chwi er niwed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwch chi'n gwybod wedyn fod y dinistr dw i'n ei fygwth yn mynd i ddigwydd. A dyma'r prawf fy mod i'n mynd i'ch cosbi chi,’ meddai'r ARGLWYDD:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Dyma'r arwydd i chwi,' medd yr ARGLWYDD: 'Cosbaf chwi yn y lle hwn er mwyn i chwi wybod fod fy ngeiriau'n sefyll yn gadarn yn eich erbyn er drwg.'