Jeremiah 44:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O achos eu drygioni yr hwn a wnaethant i'm digio i, gan fyned i arogldarthu, ac i wasanaethu duwiau dieithr, y rhai nid adwaenent, na hwy, na chwithau, na'ch tadau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Digwyddodd hyn i gyd am fod y bobl yno wedi gwneud cymaint o ddrwg, a'm gwylltio i drwy addoli duwiau eraill a llosgi arogldarth iddyn nhw. Duwiau oedden nhw doeddech chi na'ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
o achos y drygioni a wnaethant i'm digio, gan losgi arogldarth ac addoli duwiau eraill nad oeddent hwy na chwithau na'ch hynafiaid yn eu hadnabod.