Jeremiah 44:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele, myfi a roddaf Pharo‐hoffra brenin yr Aifft yn llaw ei elynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio ei einioes ef, fel y rhoddais i Sedeceia brenin Jwda yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon ei elyn, a'r hwn oedd yn ceisio ei einioes.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Dw i'n mynd i roi Pharo Hoffra, brenin yr Aifft, yng ngafael y gelynion sydd eisiau ei ladd. Bydd yn union fel y gwnes i Sedeceia, brenin Jwda, pan gafodd ei ddal gan Nebwchadnesar, brenin Babilon, oedd am ei ladd e.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Yr wyf fi'n rhoi Pharo Hoffra brenin yr Aifft yn llaw ei elynion, a'r rhai sy'n ceisio'i einioes, fel y rhoddais Sedeceia brenin Jwda yn llaw Nebuchadnesar brenin Babilon, ei elyn a oedd yn ceisio'i einioes.'"