Jeremiah 44:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y tywalltwyd fy llid a'm digofaint, ac y llosgodd efe yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem; ac y maent hwy yn anghyfannedd, ac yn ddiffeithwch, fel y gwelir heddiw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma fi'n tywallt fy llid yn ffyrnig arnyn nhw — roedd fel tân yn llosgi drwy drefi Jwda a strydoedd Jerwsalem. Dyna pam maen nhw'n adfeilion diffaith hyd heddiw.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly tywalltwyd fy llid a'm digofaint, a llosgi yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, a'u gwneud yn anghyfannedd a diffaith, fel y maent heddiw.'