Jeremiah 44:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW y lluoedd, DUW Israel; Paham y gwnewch y mawr ddrwg hwn yn erbyn eich eneidiau, i dorri ymaith oddi wrthych ŵr a gwraig, plentyn, a'r hwn sydd yn sugno, allan o Jwda, fel na adawer i chwi weddill?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly nawr mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, Duw Israel, yn gofyn: ‘Pam ydych chi'n dal ati i wneud niwed i chi'ch hunain? Pam ddylai pob dyn, gwraig, plentyn a babi bach gael ei gipio i ffwrdd o Jwda, fel bod neb o gwbl ar ôl?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, Duw Israel: 'Pam yr ydych yn gwneud y drwg mawr hwn yn eich erbyn eich hunain, a thorri ymaith o Jwda u373?r a gwraig, plentyn a baban, fel nad oes gennych weddill yn aros?