Jeremiah 44:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A anghofiasoch chwi ddrygioni eich tadau, a drygioni brenhinoedd Jwda, a drygioni eu gwragedd hwynt, a'ch drygioni eich hunain, a drygioni eich gwragedd, y rhai a wnaethant hwy yng ngwlad Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydych chi wedi anghofio'r holl ddrwg wnaeth eich hynafiaid yng ngwlad Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem — y drwg wnaeth brenhinoedd Jwda a'u gwragedd, a chi eich hunain a'ch gwragedd?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A ydych wedi anghofio drygioni eich hynafiaid a drygioni brenhinoedd Jwda a drygioni eu gwragedd, a'ch drygioni chwi eich hunain a'ch gwragedd, a wnaed yn nhir Jwda ac yn heolydd Jerwsalem?