Jeremiah 45:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y gair yr hwn a lefarodd Jeremeia y proffwyd wrth Baruch mab Nereia, pan ysgrifenasai efe y geiriau hyn o enau Jeremeia mewn llyfr, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, gan ddywedyd,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r proffwyd Jeremeia yn rhoi neges i Barŵch fab Nereia oedd yn ysgrifennu'r cwbl roedd Jeremeia'n ei ddweud mewn sgrôl. (Roedd hyn yn ystod y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda):
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r gair a lefarodd y proffwyd Jeremeia wrth Baruch fab Nereia, pan ysgrifennodd ef y geiriau hyn mewn llyfr, yn l cyfarwyddyd Jeremeia, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda: