Jeremiah 45:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywedi wrtho ef, Yr ARGLWYDD a ddywed fel hyn; Wele, myfi a ddistrywiaf yr hyn a adeiledais, a mi a ddiwreiddiaf yr hyn a blennais, nid amgen yr holl wlad hon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Dw i'n mynd i fwrw i lawr beth dw i wedi ei adeiladu, a thynnu o'r gwraidd beth dw i wedi ei blannu. Bydda i'n gwneud hyn drwy'r byd i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywedi wrth Baruch: 'Dyma air yr ARGLWYDD: Wele, fe dynnaf i lawr yr hyn a adeiledais, a diwreiddio'r hyn a blennais. Digwydd hyn i'r holl wlad.