Jeremiah 46:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys dydd ARGLWYDD DDUW y lluoedd yw hwn, dydd dial, fel yr ymddialo efe ar ei elynion: a'r cleddyf a ysa, ac a ddigonir, ac a feddwir â'u gwaed hwynt: canys aberth sydd i ARGLWYDD DDUW y lluoedd yn nhir y gogledd wrth afon Ewffrates.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae beth fydd yn digwydd y diwrnod hwnnw yn llaw'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus. Diwrnod o dalu'n ôl i'w elynion. Bydd y cleddyf yn difa nes cael digon; bydd wedi meddwi ar eu gwaed! Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn eu cyflwyno nhw'n aberth ar lan Afon Ewffrates yn y gogledd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hwn yw dydd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd, dydd dialedd i ddial ar ei elynion. Ysa'r cleddyf nes syrffedu; meddwa ar eu gwaed. Canys bydd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd yn cynnal aberth yng ngwlad y gogledd, wrth afon Ewffrates.