Jeremiah 46:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe a wnaeth i lawer syrthio, ie, pawb a syrthiodd ar ei gilydd; a hwy a ddywedasant, Cyfodwch, a dychwelwn at ein pobl, i wlad ein genedigaeth, rhag cleddyf y gorthrymwr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnaeth i lu o filwyr syrthio a baglu dros ei gilydd wrth geisio dianc. ‘Gadewch i ni fynd yn ôl at ein pobl,’ medden nhw. ‘Mynd yn ôl i'n gwledydd ein hunain, a dianc rhag i'r gelyn ein lladd!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Parodd i luoedd faglu a syrthio y naill yn erbyn y llall. Dywedasant, 'Cyfodwch, dychwelwn at ein pobl, i wlad ein genedigaeth, rhag cleddyf y gorthrymwr.'