Jeremiah 46:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn erbyn yr Aifft, yn erbyn llu Pharo‐necho brenin yr Aifft, yr hwn oedd wrth afon Ewffrates yn Carchemis, yr hwn a ddarfu i Nebuchodonosor brenin Babilon ei daro, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r neges am yr Aifft, ac am fyddin Pharo Necho, brenin yr Aifft, oedd yn gwersylla yn Carcemish ar lan afon Ewffrates. (Cafodd y fyddin ei threchu gan Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda):
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
am yr Aifft, ynglu375?n lluoedd Pharo Necho brenin yr Aifft pan oeddent yn Carchemis yn ymyl yr Ewffrates, wedi i Nebuchadnesar brenin Babilon eu gorchfygu yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda: