Jeremiah 46:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwy a gymynant i lawr ei choed hi, medd yr ARGLWYDD, er na ellir ei chwilio: canys amlach fyddant na'r ceiliogod rhedyn, ac heb rifedi arnynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr Aifft fel coedwig drwchus yn cael ei thorri i lawr, —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Mae'r dyrfa sy'n dod yn ei herbyn fel haid o locustiaid! Mae'n amhosib eu cyfri nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
torrant i lawr ei choedydd," medd yr ARGLWYDD. "Canys ni ellir eu rhifo; y maent yn amlach eu rhif na locustiaid, heb rifedi arnynt.