Jeremiah 46:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond nac ofna di, O fy ngwas Jacob; a thithau Israel, na ddychryna; canys wele, myfi a'th gadwaf di o bell, a'th had o wlad eu caethiwed; a Jacob a ddychwel, ac a orffwys, ac a fydd esmwyth arno, ac heb neb a'i dychryno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly, peidiwch bod ag ofn bobl Jacob, fy ngweision,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Peidiwch anobeithio bobl Israel. Dw i'n mynd i'ch achub chi a'ch plant o'r wlad bell lle buoch yn gaeth. Bydd pobl Jacob yn dod yn ôl adre ac yn mwynhau heddwch. Byddan nhw'n teimlo'n saff a fydd neb yn eu dychryn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ond tydi, fy ngwas Jacob, paid ag ofni; paid ag arswydo, Israel; canys dyma fi'n dy achub o bell, a'th had o wlad eu caethiwed. Bydd Jacob yn dychwelyd ac yn cael llonydd; bydd yn esmwyth arno, ac ni fydd neb i'w ddychryn.