Jeremiah 46:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O fy ngwas Jacob, nac ofna, medd yr ARGLWYDD; canys yr ydwyf fi gyda thi; canys mi a wnaf ddiben ar yr holl genhedloedd y rhai y'th fwriais atynt; ond ni wnaf fi ddiben arnat ti; eithr mi a'th gosbaf di mewn barn, ac ni'th dorraf ymaith yn llwyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch bod ag ofn, bobl Jacob, fy ngweision,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn— “dw i gyda chi. Dw i'n mynd i ddinistrio'r gwledydd hynny lle gwnes i eich gyrru chi ar chwâl, ond wna i ddim eich dinistrio chi. Bydda i yn eich disgyblu chi, ond dim ond faint dych chi'n ei haeddu; alla i ddim peidio'ch cosbi chi o gwbl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tydi, fy ngwas Jacob, paid ag ofni," medd yr ARGLWYDD, "canys yr wyf fi gyda thi; gwnaf ddiwedd ar yr holl genhedloedd y gyrrais di atynt; ond ni wnaf ddiwedd arnat ti. Disgyblaf di mewn barn, ni'th adawaf yn ddi-gosb."