Jeremiah 47:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, dyfroedd a gyfodant o'r gogledd, ac a fyddant fel afon lifeiriol, a hwy a lifant dros y wlad, a'r hyn sydd ynddi; y ddinas, a'r rhai sydd yn aros ynddi; yna y dynion a waeddant, a holl breswylwyr y wlad a udant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Edrychwch! Mae'r gelynion yn codi yn y gogledd fel afon ar fin gorlifo. Byddan nhw'n dod fel llifogydd i orchuddio'r tir. Byddan nhw'n dinistrio'r wlad a phopeth ynddi, y trefi a phawb sy'n byw ynddyn nhw. Bydd pobl yn gweiddi mewn dychryn, a phopeth byw yn griddfan mewn poen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Wele, y mae dyfroedd yn tarddu o'r gogledd, ac yn llifeirio'n ffrwd gref; llifant dros y wlad a'i chynnwys, ei dinasoedd a'u preswylwyr. Y mae'r bobl yn gweiddi a holl breswylwyr y wlad yn udo,