Jeremiah 47:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O achos y dydd sydd yn dyfod i ddistrywio yr holl Philistiaid, ac i ddinistrio o Tyrus a Sidon bob cynorthwywr ag y sydd yng ngweddill: oblegid yr ARGLWYDD a ddinistria y Philistiaid, gweddill ynys Cafftor.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r diwrnod wedi dod i'r Philistiaid gael eu dinistrio, a'r cynghreiriaid sydd ar ôl yn Tyrus a Sidon. Ydw, dw i'r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio'r Philistiaid, y bobl ddaeth drosodd o ynys Creta.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth y dydd i ddinistrio yr holl Philistiaid, i dorri allan o Tyrus ac o Sidon bob un sy'n aros i'w cynorthwyo. Dinistria'r ARGLWYDD y Philistiaid, gweddill ynystir Cafftor.