Jeremiah 48:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, yn erbyn Moab; Gwae Nebo! canys hi a anrheithiwyd: gwaradwyddwyd Ciriathaim, ac enillwyd hi; Misgab a waradwyddwyd, ac a ddychrynwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Moab: “Mae hi ar ben ar dref Nebo! Bydd hi'n cael ei dinistrio. Bydd Ciriathaim yn cael ei chywilyddio a'i choncro — bydd y gaer yn cael ei chywilyddio a'i bwrw i lawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am Moab, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: "Gwae Nebo, canys fe'i hanrheithiwyd! Cywilyddiwyd a daliwyd Ciriathaim; cywilyddiwyd Misgab, a'i difetha.