Jeremiah 48:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Alaethwch drosti hi, y rhai ydych o'i hamgylch; a phawb a'r a edwyn ei henw hi, dywedwch, Pa fodd y torrwyd y ffon gref, a'r wialen hardd!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Galarwch drosti, chi wledydd sydd o'i chwmpas a phawb sy'n gwybod amdani. Dwedwch, ‘O! Mae ei grym wedi ei golli; mae'r deyrnwialen hardd wedi ei thorri!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galarwch drosti, bawb sydd o'i hamgylch, bawb sy'n adnabod ei henw. Gofynnwch, 'Pa fodd y torrwyd y ffon gref a'r wialen hardd?'