Jeremiah 48:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni bydd ymffrost Moab mwy: yn Hesbon hwy a ddychmygasant ddrwg i'w herbyn hi: Deuwch, dinistriwn hi i lawr, fel na byddo yn genedl. Tithau, Madmen, a dorrir i lawr, y cleddyf a'th erlid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd Moab ddim yn cael ei hedmygu eto! Bu cynllwynio yn Cheshbon i'w dinistrio: ‘Dewch! Gadewch i ni roi diwedd ar y wlad!’ Tref Madmen, cei dithau dy dawelu — Does dim dianc rhag y rhyfel i fod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni bydd gogoniant Moab mwyach; yn Hesbon cynlluniwyd drwg yn eu herbyn: 'Dewch, dinistriwn hi fel na bydd yn genedl!' Distewir dithau, Madmen, erlidia'r cleddyf di.