Jeremiah 48:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Meddwwch hi, oblegid hi a ymfawrygodd yn erbyn yr ARGLWYDD: ie, Moab a ymdrybaedda yn ei chwydfa; am hynny y bydd hi hefyd yn watwargerdd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Moab yn brolio ei bod yn well na'r ARGLWYDD. Ond bydd fel meddwyn yn rholio yn ei chwŷd. Bydd pawb yn chwerthin ar ei phen!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gwnewch hi'n feddw, canys ymfawrygodd yn erbyn yr ARGLWYDD; ymdrybaedded Moab yn ei chwydfa, a bydded felly'n gyff gwawd.