Jeremiah 48:33 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dygir ymaith lawenydd a gorfoledd o'r doldir, ac o wlad Moab, a mi a wnaf i'r gwin ddarfod o'r cafnau: ni sathr neb trwy floddest; eu bloddest ni bydd bloddest.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pleser a llawenydd yn diflannu'n llwyr o dir ffrwythlon Moab. Bydda i'n stopio'r gwin rhag llifo i'r cafnau; fydd neb yn gweiddi'n llawen wrth sathru'r grawnwin — bydd gweiddi, ond bydd y gweiddi'n wahanol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd diwedd ar lawenydd a gorfoledd yn y doldir ac yng ngwlad Moab; gwnaf i'r gwin ddarfod o'r cafnau, ac ni fydd neb yn sathru bloddest bloddest nad yw'n floddest.