Jeremiah 48:34 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O floedd Hesbon hyd Eleale, a hyd Jahas, y llefasant, o Soar hyd Horonaim, fel anner deirblwydd: canys dyfroedd Nimrim a fyddant anghyfannedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bydd y gweiddi a'r galar yn Cheshbon i'w glywed yn Eleale a hyd yn oed Iahats. Bydd i'w glywed o Soar i Choronaïm ac Eglath-shalisheia. Bydd hyd yn oed dŵr Nimrim yn cael ei sychu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Daw cri o Hesbon ac Eleale; codant eu llef hyd Jahas, o Soar hyd Horonaim ac Eglath-Shalisheia, oherwydd aeth dyfroedd Nimrim yn ddiffaith.