Jeremiah 48:35 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a wnaf hefyd ballu ym Moab, medd yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn offrymu mewn uchelfeydd, a'r hwn sydd yn arogldarthu i'w dduwiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd neb yn mynd i fyny i aberthu ar yr allorau paganaidd, ac yn llosgi arogldarth i dduwiau Moab,” meddai'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaf ddiwedd yn Moab," medd yr ARGLWYDD, "ar y sawl sy'n offrymu mewn uchelfa, ac yn arogldarthu i'w dduwiau.