Jeremiah 48:41 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y dinasoedd a oresgynnir, a'r amddiffynfeydd a enillir, a chalon cedyrn Moab fydd y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd ei threfi yn cael eu meddiannu, a'r caerau sy'n ei hamddiffyn yn cael eu dal. Ar y diwrnod hwnnw bydd milwyr Moab wedi dychryn fel gwraig ar fin cael babi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gorchfygir y dinasoedd, ac enillir yr amddiffynfeydd, a bydd calon dewrion Moab, y diwrnod hwnnw, fel calon gwraig wrth esgor.